Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-06-11 : Papur 3

 

Papur tystiolaeth –  Cyllideb Dwristiaeth Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012/13

 

Cyflwyniad

 

  1. Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth ariannol gefndirol i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch cynlluniau gwariant yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar gyfer Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr, fel yr amlinellir yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 4 Hydref 2011.

 

Crynodeb o Newidiadau’r Gyllideb

 

  1. Mae cynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr wedi’u llunio yng nghyd-destun gostyngiad yn y llinellau sylfaen yn dilyn setliad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. Mae crynodeb yn Atodiad A o’r prif feysydd gwariant ym Maes y Rhaglen Wariant. Yn gyffredinol mae’r gyllideb Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr wedi gostwng £0.279m, sef gostyngiad o 1.4% yn erbyn llinell sylfaen 2011/12.

 

Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Atodol 2011/12

£’000

Newidiadau

Cyllideb Arfaethedig 2012/13 £’000

Cynlluniau Dangosol 2013/14 £’000

Cynlluniau Dangosol 2014/15 £’000

Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

Refeniw

16,677

84

16,593

16,523

16,523

Cyfalaf

2,790

195

2,595

2,313

2,313

CYFANSWM

19,467

279

19,118

18,836

18,836

 

Twristiaeth

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

2011/12 Cyllideb Atodol

£’000

Cyllideb Arfaethedig 2012/13 £’000

Cynlluniau Dangosol 2013/14 £’000

Cynlluniau Dangosol 2014/15 £’000

Twristiaeth

Refeniw

12,747

12,723

12,626

12,626

Cyfalaf

2,790

2,595

2,313

2,313

CYFANSWM

15,537

15,318

14,939

14,939

 

 

  1. Bydd cyllid o £15.3m ar gyfer gweithgareddau twristiaeth yn canolbwyntio ar gynyddu galw a throsi ymwelwyr, datblygu profiad ymwelwyr a hwyluso ymgyrchoedd marchnata perthnasol. Mae’r gostyngiad o £0.219m yn sgil arbedion effeithlonrwydd mewn gweithgarwch twristiaeth.

 

  1. Mae’r gostyngiad cyffredinol o £0.219m yn sgil arbedion effeithlonrwydd o £0.416m i ddatblygu profiad ymwelwyr, sy’n cael ei wrthbwyso gan gynnydd o £0.197m i fynd i’r afael â’r pwysau galw a throsi.

 

  1. Y flaenoriaeth i dwristiaeth yw gweithio gyda phartneriaid y sector cyhoeddus a phreifat i ddatblygu economi ymwelwyr cynaliadwy. Bydd gweinyddu’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth a chynlluniau graddio cydlynus y DU yn effeithiol yn helpu i wella ansawdd cynhyrchion a gwneud y sector twristiaeth yn  fwy cystadleuol.

 

  1. Bydd twristiaeth yn cyfrannu at sawl ymrwymiad. Bydd camau gweithredu’n datblygu gweithgarwch twristiaeth a marchnadoedd arbenigol, ac yn manteisio i’r eithaf ar ddigwyddiadau mawr yn ein lleoliadau proffil uchel ac yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth o safon uchel. Bydd y gyllideb yn cefnogi ymestyn y tymor ymwelwyr a’r manteision cysylltiedig, yn ogystal â nodi cyfleoedd cyllid i wella’r seilwaith a’r cynhyrchion i ymwelwyr yng Nghymru.  Bydd cymorth cysylltiedig ar gyfer buddsoddi mewn hyfforddi a rheoli staff i gefnogi diwydiant o safon uchel hefyd yn bwysig.

 

Digwyddiadau Mawr

 

Cam Gweithredu

Categori Gwariant

Cyllideb Atodol 2011/12

£’000

Cyllideb Arfaethedig 2012/13 £’000

Cynlluniau Dangosol 2013/14 £’000

Cynlluniau Dangosol 2014/15 £’000

Digwyddiadau Mawr

Refeniw

3,930

3,870

3,897

3,897

CYFANSWM

3,930

3,870

3,897

3,897



  1. Bydd cyllid o £3.9m ar gyfer Digwyddiadau Mawr yn cefnogi gwaith gyda ffederasiynau chwaraeon cenedlaethol, y DU a rhyngwladol i sicrhau bod Cymru’n cynnal mwy o ddigwyddiadau mawr yn y dyfodol, gan sicrhau bod Cymru gyfan yn gweld manteision yr uchelgais hon. Bydd y gyllideb hefyd yn cefnogi gwaith gyda Chyngor Caerdydd i ymchwilio i ymarferoldeb gwneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026.

 

  1. Mae’r gostyngiad o £0.060m yn sgil arbedion effeithlonrwydd.

 

  1. Bydd y cyllid ar gyfer Digwyddiadau Mawr yn cefnogi cyflwyno Digwyddiadau Cymru – strategaeth digwyddiadau mawr gyntaf Cymru a lansiwyd ym mis Medi 2010. Nod y strategaeth yw adeiladu ar lwyddiant Prawf Cyfres y Lludw 2009 a Chwpan Ryder 2010 i ddatblygu Cymru fel cyrchfan o safon byd ar gyfer digwyddiadau mawr.

 

 

 

 

Atodiad A

Meysydd Rhaglenni Gwariant – prif feysydd gwariant

 

Twristiaeth

 

Mae’r Rhaglen Wariant hon yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu, hyrwyddo a marchnata Cymru fel cyrchfan i dwristiaid yn y DU a thramor.

 

Mae’r rhaglen farchnata’n ceisio meithrin enw da Cymru fel cyrchfan dwristiaeth yn y tymor canolig, gan ysgogi’r galw am fusnesau twristiaeth Cymru yn y tymor byr.

 

Er mwyn sicrhau’r elw gorau posibl o fuddsoddi’r cronfeydd sydd ar gael, mae Croeso Cymru yn dadansoddi’r farchnad ac yn nodi’r marchnadoedd blaenoriaeth a’r meysydd sydd â’r potensial mwyaf i Gymru. Drwy wneud hynny mae angen cymharu’r angen i ddatblygu marchnadoedd a meysydd sydd â photensial twf yn y tymor hwy â’r angen i barhau i lywio busnes y marchnadoedd mwy aeddfed yn y tymor byr.

 

Canlyniad y dadansoddiad hwn yw Cynllun Gweithredu Marchnata Strategol sy’n llywio’r camau gweithredu blaenoriaeth blynyddol. Caiff effaith y gweithgareddau marchnata hyn ei gwerthuso drwy gyfres o 7 dangosydd perfformiad allweddol. Bydd y Panel Sector Twristiaeth yn cytuno ar symud blaenoriaethau yn eu blaen.

 

Mae Croeso Cymru yn defnyddio technegau marchnata sy’n cynnig ymateb cyfannol ac integredig i’r her fusnes. Mae hyn yn cynnwys sicrhau’r manteision gorau posibl o’r digwyddiadau mawr sy’n cael eu cefnogi a phwyslais cynyddol ar dechnegau marchnata digidol. Mae’n cefnogi ac yn annog dull gweithredu Cymru gyfan ar gyfer datblygu twristiaeth, gyda’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, a gweithio’n agos gyda’r pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol.

 

Digwyddiadau Mawr

 

Dyma fydd y blaenoriaethau strategol dros y cyfnod:

 

-       cefnogi rhaglen o Ddigwyddiadau Twf y tu allan i Gaerdydd;

 

-       gweithio’n strategol gyda pherchnogion a threfnwyr Digwyddiadau Unigryw Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o’u hymestyn;

 

-       ceisio denu digwyddiadau rhyngwladol mawr a fydd yn gwella cydnabyddiaeth ac enw da Cymru yn rhyngwladol;

 

-       ar y cyd â’r Cynghorau Sgiliau Sector priodol, cydlynu cynllun gweithredu gyda’r sector addysg a darparwyr hyfforddiant i gryfhau adnoddau rheoli a chynhyrchu digwyddiadau proffesiynol Cymru.

 

Caiff y gyllideb digwyddiadau mawr eu defnyddio i gyflawni ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu er mwyn gweithio gyda ffederasiynau chwaraeon cenedlaethol, y DU a rhyngwladol i sicrhau bod Cymru’n cynnal mwy o ddigwyddiadau mawr yn y dyfodol a chefnogi gwaith gyda Chyngor Caerdydd i ymchwilio i ymarferoldeb gwneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026.